top of page

Adloniant | Y Da a'r Drwg am Disney

Adloniant | Y Da a'r Drwg am Disney

gan Mahum Umer

“Ti'n edrych fel Moana - I'll call you Moana, iawn?”
Dydw i ddim yn edrych fel Moana.
Polynesaidd yw cymeriad Moana, tra fy mod i'n dde Asiaidd. Rwy'n cofio na allai'r person hwn gael fy enw'n iawn felly fe benderfynon nhw fy ngalw'n Moana yn lle hynny.
Byddai Jasmine wedi bod yn fwy cywir o leiaf.
Roeddwn i'n iau pan ddigwyddodd hyn, efallai oherwydd dyma'r unig gymeriad POC y gallent feddwl amdano. Credaf nad oedd y ferch roeddwn yn siarad â hi na mi fy hun yn gwbl ymwybodol o'r micro-aggression. Ond dyma un o’r rhesymau pam fod cynrychiolaeth mor bwysig yn y cyfryngau sydd o’n cwmpas. Sylweddolais wedyn, nad oes yna dywysoges Disney Fwslimaidd.
Wrth dyfu i fyny, y cymeriad Disney agosaf y gallwn i uniaethu efo oedd Jasmine o'r ffilm Aladdin. Er bod y ffilm Disney wreiddiol wedi'i gosod mewn teyrnas dwyrain canol, mae Aladdin yn cynnwys llawer o ddiwylliannau dwyrain canol ac Asiaidd. Tan heddiw, dyma'r darlun agosaf i mi ei weld o fy hun yn Disney. Gan fod Jasmine a minnau â chroen brown, dyma'r ffilm Disney y gallwn i uniaethu fwyaf gyda hi. Ac eto, bron ddim o gwbl.

Mae'r addasiad (eithaf) newydd o Aladdin yn fwy sensitif yn ddiwylliannol a gymdeithasol na'r gwreiddiol, a oedd gyda'r actorion i gyd yn wyn. Er, nad oedd pawb yn hapus gyda Disney yn castio actorion o lawer o wahanol ddiwylliannau, fel castio actor hanner Prydeinig, hanner Indiaidd i chwarae Jasmine, cymeriad y credir ei fod o’r dwyrain canol. Ai dyma oedd wir y penderfyniad cywir neu ai dim ond rhoi holl bobl frown yn yr un grŵp oedden nhw?
Credaf fod hyn wedi dangos bod eisiau mwy o gynrychiolaeth o dde-Asia yn Disney. Dywedir bod Disney wedi chwilio am gyngor addysgedig i'r ffilm i newid ac osgoi ystradebau hiliol o'r gwreiddiol a wnaed yn 1992, ond yn lle ail-wneud ffilmiau lle mae'n rhaid i ni 'drwsio' yr elfennau hyn, pam nad yw Disney yn gwneud ffilm newydd gyda phrif gymeriad newydd, a pham na wnawn ni straeon newydd?

Fel merch â chroen brown, roedd yn braf fel plentyn i weld cymeriad fel Jasmine ar y teledu. Ond yn fy arddegau, rwy'n meddwl y byddai'n anhygoel i Disney gyflwyno prif gymeriad Mwslimaidd i deledu.

Heddiw, mae'n hanfodol cael cynrychiolaeth gywir ac yn enwedig gyda llawer o bortreadau anghywir o gymeriadau Mwslimaidd yn Hollywood, byddai'n anhygoel cael prif gymeriad Disney Mwslimaidd i blant ac oedolion ei weld. Byddwn wrth fy modd yn cael tywysoges neu brif gymeriad o Disney sydd yn hijabi efo stori newydd. Mae llawer o storiâu cymeriadau Mwslimaidd yn tueddu i fod: merch Fwslimaidd yn cael ei gorthrymu, merch Fwslimaidd yn mynd yn groes i grefydd neu’n syrthio mewn cariad â bachgen gwyn, merch Fwslimaidd yn dod yn ‘grymus’ ac yn ‘rhydd’ - y diwedd.

Mae'n bryd rhoi'r gorau i'r cylch hwn o microaggressions ac ystradebau. Nid yw'r darluniau hyn yn newydd, ac mae Mwslemiaid wedi cael eu camliwio ers amser maith. Ar ôl 9/11, dechreuodd Mwslimiaid gael eu portreadu'n eang fel dihirod mewn ffilmiau. Y rheswm pam mae cynrychiolaeth mor bwysig yw oherwydd wrth i ni weld dro ar ôl tro grŵp o bobl yn cael eu portreadu un ffordd, dyna beth y byddwn yn eu cysylltu gydag e.

Newyddion da yw bod sioe newydd Ms Marvel yn dod allan cyn bo hir gyda phrif gymeriad Mwslimaidd, felly credaf ei fod yn hen bryd cael ‘dywysoges’ neu gymeriad Disney Mwslimaidd gall plant uniaethu gyda hi. Mae gan y cyfryngau yn gyffredinol ddylanwad mawr ar y ffordd yr ydym yn gweld ein gilydd, a dyna pam mae angen i ni frwydro yn erbyn ystradebau a gweithio tuag at wella’r gynrychiolaeth yn y byd film i greu straeon newydd, a rhannu gwir straeon y bobl.

Adloniant | Y Da a'r Drwg am Disney
bottom of page